Pam Newid
I arbed arian
Mae'r marchnadoedd nwy a thrydan wedi newid yn sylweddol. Erbyn hyn gallwch newid cyflenwr ynni o'r hyn a oedd gynt yn ddarparwr haen gyntaf i chi - eich cyflenwr nwy neu drydan lleol a chael eich cyflenwadau nwy a thrydan gan ddarparwr ynni rhatach.
Mae'n gwbl DDI-DÂL i newid darparwyr ynni, dim ffioedd i'w talu i uchange4better nac i'ch darparwyr ynni presennol a'ch cyflenwyr newydd. Felly, heb orfod gwario ceiniog gallech fod ar eich ffordd i arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn. Ar gyfartaledd mae pobl sy'n defnyddio'n gwasanaethau'n arbed £150 y flwyddyn ar eu biliau ynni.
I helpu i roi terfyn ar newid yn yr hinsawdd
Ffordd wych o helpu i roi terfyn ar newid yn yr hinsawdd yw newid i gyflenwr sy'n gwerthu ynni gwyrdd.
Mae cyfrifiannell cymharu prisiau ynni cartref uchange4better yn gadael i chi gael prisiau gan bob un o gyflenwyr ynni gwyrdd y DU a gweld eu sgôr ar Dabl Cynghrair Ynni Gwyrdd Cyfeillion y Ddaear a hefyd gweld y cynnyrch a gymeradwyir gan Greenpeace.
Peidiwch â thybio'n awtomatig y byddwch trwy wneud rhywbeth er lles yr amgylchedd yn talu mwy na'r hyn y byddech yn ei dalu i'r cyflenwyr traddodiadol. Rhowch gynnig ar chwiliad gwyrdd uchange4better i weld drosoch eich hun.
Cyngor annibynnol
Rhai o brif fanteision defnyddio gwasanaeth cymharu prisiau ynni uchange4better yw:
- ein bod yn gwbl annibynnol ar yr holl gyflenwyr
- bod y prisiau a ddyfynnir yn cynnwys pob cyflenwr nwy a thrydan domestig
- bod y prisiau'n hollol gywir gyda'r rhan fwyaf o'r cyflenwyr â mynediad uniongyrchol i'n cronfeydd data
- Rydym yn diwyd-reoli'r gwaith o'ch trosglwyddo i sicrhau bod popeth yn mynd yn hwylus.
Didrafferth
Yn bwysicach, mae'n hawdd ac yn ddidrafferth, does dim angen gwneud unrhyw newidiadau i'ch mesuryddion, y ceblau na'r pibellau. Dim ond y bilio ei hun sy'n newid a gallwch drefnu hyn i gyd drwy ddefnyddio gwasanaethau uchange4better mewn llai na phum munud.
Hyd yn oed os nad ydych am newid cyflenwyr ar hyn o bryd, mae uchange4better yn rhoi cyfle i chi gymharu eich costau ar hyn o bryd gyda'r holl ddarparwyr presennol eraill.