Arbedion

 

Trwy newid cyflenwr trydan neu nwy o'ch cyflenwr traddodiadol neu leol, gallech arbed £150 y flwyddyn ar gyfartaledd.

 

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw defnyddio'r gwasanaeth cymharu prisiau ynni cartref i roi eich manylion ar gyfer y tanwydd(au) o'ch dewis ac mi dderbyniwch y canlyniadau gorau sydd ar gael yn ôl eich amgylchiadau personol.

 

Mae uchange4better yn rhestru pob un pris trydan a nwy sydd ar gael ar gyfer eich cartref, ac felly byddwch yn sicr o gael y fargen orau bosibl.

 

Os gwelwch gontract ynni newydd sydd o ddiddordeb, naill ai cofrestrwch ar-lein i fanteisio ar yr arbedion neu cadwch eich dyfynbris am nawdeg diwrnod.

 

Oni ddewiswch beidio â bod yn rhan, bydd uchange4better yn cadw manylion eich defnydd o ynni ar eu cronfa ddata am flwyddyn er mwyn iddynt allu cysylltu â chi eto mewn rhyw un mis ar ddeg i roi gwybod ichi am y fargen orau a fydd ar gael i chi yr adeg honno.